top of page
Felted daffodils

 Sara Atkins

I am a disabled textile artist based in South Wales. 

When I was 12 yrs. old, my family and I moved to Wales and as I made Wales

my home, I welcomed the deep sense of belonging and transformation to

me as a person and as an artist. 

 I enjoy working with wool, especially crocheting and felting.  Felting ignited a passion in me.  It enables me to paint with wool and create 2D and 3D images, full of depth, texture, and character.  I also have recently formed a passion for water colour, and am planning on using the local area to forage for items to make my own paints and inks.​​

​

​As a Creative Arts Practitioner, I have a NNEB and a degree in Creative and Therapeutic Arts.  I am also currently studying to become an outdoor practitioner.

I am guided by theoretical concepts, frameworks and boundaries that define my role as a Creative Arts Practitioner.  I am fully insured and hold an enhanced DBS.

I have experience working with both adults and children, and also additional needs, dementia, autism, chronic pain, survivors of domestic abuse and their children and mental health.   

I am passionate about developing  social inclusion, and promoting wellbeing and enabling both children and adults to have access to good quality art at an affordable price.  

I enjoy working in the local community,  facilitating person centred workshops to enhance the wellbeing of participants, at local venues, with participants of all ages.  I also run workshops from my home studio.  Classes are kept small to promote social inclusion for both adults and children.  

​

Dwi’n artist tecstilau anabl o dde Cymru. 

Pan oeddwn i’n 12 oed, symudodd fy nheulu a minnau i Gymru, ac wrth ymgartrefu yma, fe wnes i groesawu’r ymdeimlad dwfn o berthyn a’r trawsnewidiad a brofais fel person ac artist.

 Dwi’n mwynhau gweithio gyda gwlân, yn enwedig crosio a ffeltio.  Fe daniodd ffelt angerdd ynof.  Mae’n fy ngalluogi i beintio â gwlân a chreu delweddau 2D a 3D, sy’n llawn dyfnder, gwead a chymeriad.​ Dwi hefyd wedi bod yn frwd dros liw dŵr yn ddiweddar ac yn bwriadu defnyddio'r ardal leol i chwilio am eitemau i wneud fy mhaent ac inciau fy hun.

​

​Fel Ymarferydd y Celfyddydau Creadigol, mae gen i NNEB a gradd yn y Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig.  Dwi hefyd yn astudio i fod yn ymarferydd awyr agored ar hyn o bryd.

Dwi’n cael fy arwain gan gysyniadau damcaniaethol, fframweithiau a ffiniau sy’n diffinio fy rôl fel Ymarferydd y Celfyddydau Creadigol.  Mae gen i yswiriant llawn a DB uwch.

Mae gen i brofiad o weithio gydag oedolion a phlant, yn ogystal ag anghenion ychwanegol, dementia, awtistiaeth, poen cronig, goroeswyr cam-drin domestig a'u plant, ac iechyd meddwl. 

Dwi’n frwd dros ddatblygu cynhwysiant cymdeithasol a hyrwyddo lles a galluogi plant ac oedolion i gael mynediad at gelf o safon dda am bris fforddiadwy. 

Dwi’n mwynhau gweithio yn y gymuned leol, gan hwyluso gweithdai sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i wella lles, a hynny mewn lleoliadau lleol a chyda chyfranogwyr o bob oed.  Dwi hefyd yn cynnal gweithdai o’m stiwdio gartref.  Mae’r dosbarthiadau yn fach er mwyn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol i oedolion a phlant.

​

Ferry Boat Arts

The business is run on a not for profit ethos. 

The cost of running workshops is not to make profit but to cover the cost of tools and materials.  I keep the cost of workshops as low as possible and have a variety of prices to reach as many people as possible.

My passion for inclusion and promoting wellbeing is what drives the business.

I am guided by theories and ethical conduct such as, empathy, confidentiality, and boundaries.

My role as a Creative Arts Practitioner is to provide a safe, non-judgemental space for participants

to gain the most, holistically from their workshops. 

I enjoy working both directive and non directive.  The children I work with are given the space and time to create art work they can be proud of, without worrying about making mistakes.  They are given options within the workshops to decide what they want to do and engage with their chosen materials. 

I enable them to ask questions and experiment.  Children are given the power within workshops to make decisions about what they create and their work is their own, with gentle suggestions being provided.

I encourage all parents, children and adults I work with to leave reviews and feedback.  This enables me to be the best practitioner I can be.

​​​

Mae’r busnes yn un dielw. 

Dyw cost y gweithdai ddim ar gyfer elw, ond i dalu am gostau offer a deunyddiau.  Dwi’n cadw cost gweithdai mor isel â phosibl ac mae gen i amrywiaeth o brisiau er mwyn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl.

Fy angerdd dros gynhwysiant a hyrwyddo lles yw’r hyn sy’n gyrru’r busnes.

Dwi’n cael fy arwain gan ddamcaniaethau ac ymddygiad moesegol fel empathi, cyfrinachedd, a ffiniau.

Fy rôl fel Ymarferydd y Celfyddydau Creadigol yw cynnig gofod diogel, anfeirniadol i bobl er mwyn iddyn nhw gael y mwyaf, yn gyfannol, o'u gweithdai.

 

Dwi'n mwynhau gweithio'n gyfarwyddol ac anghyfarwyddol.  Mae’r plant dwi’n gweithio â nhw yn cael y gofod a’r amser i greu gwaith celf y gallan nhw fod yn falch ohono, heb boeni am wneud camgymeriadau.  Maen nhw’n cael y dewis mewn gweithdai i benderfynu beth maen nhw am ei wneud a defnyddio deunyddiau o'u dewis. 

Dwi'n eu galluogi i ofyn cwestiynau ac arbrofi.  Mae plant yn cael y pŵer mewn gweithdai i wneud penderfyniadau am yr hyn maen nhw’n ei greu. Eu gwaith nhw eu hunain yw eu gwaith, gyda pheth awgrymiadau’n cael eu rhoi.

Dwi’n annog yr holl rieni, plant ac oedolion dwi’n gweithio â nhw i roi adolygiadau ac adborth.  Mae hyn yn fy ngalluogi i fod yr ymarferwr gorau y gallaf fod.

​

“Access and involvement in creative activities and the arts in all its forms is an important component in overall health, wellbeing of

society & for all the individuals within it. Art plays a strong roll within communities and is a building block in building a sustainable, resilient community (RSPH, 2013)

​

"This act was designed to protect the people of Wales and ensure their social, economic, environmental, and cultural wellbeing.
The act protects vulnerable residents by making access available to everyone, and by ensuring an equal Wales for current and future generations by working with public bodies to provide seven well-being goals".

(Future Generations Act, 2015)
 

This is a black and white photo of me,   I am a middle aged women, long  brown hair.
About Me AudioFerry Boat Arts & Crafts
00:00 / 01:37
This is a photo of me working with adults within the community.
Digital badge to indicate we are dementia friendly
bottom of page